Gwasanaeth arlwyo Caterlink sy’n gyfrifol am ein cinio ganol dydd. Mae’r cwmni arlwyo yn darparu bwydlen iach, maethlon a chytbwys. Pris y cinio ysgol ar hyn o bryd yw £2.50 y dydd.
Rhaid talu am ginio gan ddefnyddio ein system talu ar-lein drwy ‘Schoolcomms’ sydd yn eich galluogi i wneud taliadau yn yn uniongyrchol i’r ysgol gan ddefnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd. Os yw eich plentyn yn absennol yn ystod yr wythnos yna bydd y tâl yn cael ei nodi fel credyd ar gyfer yr wythnos ganlynol.
Os ydych yn derbyn budd-dal megis Cynhaliaeth Incwm neu ar incwm isel, fe allwch fod yn gymwys i brydau ysgol di-dâl. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Rhaid i rieni/warchodwyr ein hysbysu o unrhyw alergedd bwyd neu oes angen deiet arbennig ar eu plentyn.
Mae rhai plant yn dewis bwyta pecyn cinio o’r cartref. Os yw’r plant yn dewis bwyta pecyn cinio o’r cartref, yna rydym yn hyrwyddo bwyta’n iach ac yn annog rhieni i sicrhau fod eu plentyn yn dod â bocs bwyd iach fel rhan o ddeiet cytbwys i’r ysgol.
Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd – Plant a Phobl Ifanc
© 2023 Ysgol Parc Y Bont - Gwefan gan Delwedd.