Cyngor Ysgol

Cartref > Plant > Cyngor Ysgol

Dyma ein cyngor ysgol am y flwyddyn. Y Cyngor Ysgol yw llais ein plant, mae ganddynt yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau er mwyn gwella ein hysgol Mae’r cyngor am fod yn trefnu nifer o ddigwyddiadau dros y flwyddyn a fydd yn cael eu harddangos yma.

Dyma ydi prif swyddogaethau ein cyngor ysgol am y flwyddyn:

  • Lais i holl blant yr ysgol
  • Parhau i wella ein hysgol
  • Helpu cadw’r ysgol yn iach a diogel
  • Helpu’r plant i fod yn ffrindiau
  • Rhoi cyfle i blant ac oedolion rannu eu syniadau
  • Trafod syniadau newydd.
  • Casglu arian er mwyn helpu elusennau a plant a phobl llai ffodus na ni
  • Cyfarch ymwelwyr newydd i’r ysgol a sicrhau bod croeso gan y plant
  • Gwneud ein gorau i wneud pawb yn hapus a diogel
  • Cyfrannu at bolisïau – e.e polisi disgwyliadau dosbarth a disgwyliadau buarth
  • Cyngor Ysgol