Cylch Meithrin

Cartref > Cymuned > Cylch Meithrin

Rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant ac felly’n ceisio darparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar i bob plentyn yn ein gofal.

Rydym yn credu fod gan pob plentyn yng Nghymru yr hawl i Addysg Gymraeg. Trwy’r ddod i’n grŵp a derbyn cefnogaeth sydd ar gael mae modd i’ch plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg Gymraeg

Rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn ein Cylch Meithrin ni. Cymraeg yw’r iaith yn ein Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.

Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu â ni.

Manylion cyswllt

Arweinydd: KERRY CAMPBELL

01248 422350

cylchmeithrinparcybont@gmail.com

Cyfeiriad:

YSGOL PARC Y BONT
LLANDDANIEL FAB
LL60 6HB

Cost y Cylch

£2.50 (12.00-12.30),

£10.00 (12.30-3.00)

Plant cyn ysgol o ddwy a hanner.

Plant sydd wedi dechrau yn y dosbarth meithrin.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • cylch meithrin
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar
hogyn ifanc yn dosbarth meithrin yn gafael mewn pel oren
 
 
  • hogyn ifanc yn dosbarth meithrin yn gafael mewn pel oren
  • hogan ifanc yn sgwennu ar wal tu allan gyda sialc
  • blociau lliw
  • hogyn ifanc yn chwarae gyda thegannau JCB
  • ardal tu allan cylch meithrin