Gwisg Ysgol

Cartref > Rhieni > Gwisg Ysgol

Mae gan yr ysgol hon wisg ysgol swyddogol. Mae’r wisg yn cynnwys crys chwys coch / cardigan goch, crys polo gwyn a throwsus/sgert du/llwyd ac esgidiau du addas. Yn yr haf caniateir gwisgo: trowsus byr du/llwyd; ffrog goch a gwyn ‘gingham’; neu ffrog biner lwyd.

Disgwylir cefnogaeth rhieni/gwarcheidwaid i sicrhau cydymffurfiaeth â’r wisg ysgol. Mae’r wisg ysgol ar werth gan y cyflenwyr isod:

  • Brodwaith, Bryn Cefni, Llangefni. (01248) 750333
  • Siop Ysgol Orchid, Stryd Fawr, Bangor (01248) 354777
  • Safle we My Clothing (sylwer nad ydynt ar gael yn syth ac efallai y bydd rhaid disgwyl am gwpwl o wythnosau amdanynt).

Cyfrifoldeb rhieni yw sicrhau bod enw eu plentyn wedi ei bwytho/ysgrifennu ar bob dilledyn y mae’n ei wisgo neu’n newid iddo fel rhan o weithgareddau’r ysgol.

Ni chaniateir gwisgo gemwaith yn yr ysgol ac eithrio un par o glustlysau bach (studs) ac oriawr.  Hefyd rhoddir caniatâd (trwy gais i’r Corff Llywodraethol) pan wisgir y gemwaith am resymau crefyddol, diwylliannol neu feddygol.

  • Gwisg Genod Ysgol Parc Y Bont
  • Gwisg Hogia Ysgol Parc Y Bont