Llythyr i Rhieni Mai 2025
Cartref > Ysgol > Newyddion > Llythyr i Rhieni Mai 2025
Annwyl Riant/Gwarchodwr,
Mae’r flwyddyn ysgol yn brysur fynd, dim ond un hanner tymor ar ôl. Hoffwn ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth barhaus yn ystod yr hanner tymor yma, un byr ond un hynod fyrlymus.
Mae hanner tymor olaf yr Haf yn un hynod cyffroes gyda phrofiadau a digwyddiadau di-ri wedi cael eu trefnu ac ar ganol cael eu trefnu.
Dyma restr o ddyddiadau pwysig dros yr hanner tymor nesaf hyd yma, byddwn yn eich hysbysu os oes unrhyw newid a’n egluro unrhyw drefniadau yn agosach i’r amser. Bydd mwy o ddigwyddiadau yn cael eu rhannu efo chi wrth i’r trefniadau a’r dyddiadau gael eu cadarnhau.
2/6/25 – Diwrnod HMS – DIM YSGOL i’r disgyblion
3/6/25 – Ysgol yn ail agor
3/6/25 – Trip i weld Sgleinio’r Lleuad – Dosbarth Derbyn – Bl 4 - Pontio
3/6/25 – Noson Agored i Rieni Meithrin Newydd – 6pm – Neuadd yr Ysgol
4/6/25 – Gwasanaeth gan Agor y Llyfr - Pawb
4/6/25 – Sesiwn Creadigol efo Gwion Aled – Bl 5 a 6
5/6/25 – Clwb Peirianneg ar ôl ysgol – Rhai sydd wedi cofrestru
6/6/25 – Pentre’ Peryglon, Talacre – Bl 5 a 6
9/6/25 – Prynhawn agored i arddangos gwaith a ffilm cofiwch Dryweryn Bl 5 a 6 – Croeso i Bawb
9/6/25 – Nofio – Bl 3 – 6 – Plas Arthur
10/6/25 – Cloddio ym Mryn Celli Ddu – Bl 5 a 6
11/6/25 – Prosiect Sbectrwm – Cydberthnasau Iach – Bl 1 a 2, Bl 5 a 6
12/6/25 – Cloddio ym Mryn Celli Ddu – Bl 5 a 6
16/6/25 – Nofio – Bl 5 a 6
16-17/6/25 – Glan Llyn – Bl 3 a 4
17-19/6/25 – Tridiau ymweld Bl 6 - YDH
19/6/25 – Diwrnod Trosglwyddo Ysgol (Pawb yn symud i fyny blwyddyn)
19/6/25 – Bore trosglwyddo dosbarth Meithrin newydd
23/6/25 – Nofio – Bl 3 – 6 – Plas Arthur
25/6/25 – Swim Safe – Bl 5 a 6 – Bae Trearddur
25/6/25 – Dathliad 150 Ysgol Parc y Bont – Tir yr Ysgol
26/6/25 – Trip i Gypsy Wood – Meithrin a Derbyn
27/6/25 – Mewn Cymeriad, Cofiwch Dryweryn – Blwyddyn 5 a 6
30/6/25 – Nofio – Bl 3 – 6 – Plas Arthur
2/7/25 – Jambori Ewro Cymru Rhithiol - Pawb
2-4/7/25 – Llangrannog – Bl 5 a 6
7/7/25 – Nofio – Bl 3 – 6 – Plas Arthur
7/7/25 – Adroddiadau Diwedd Flwyddyn Allan
8/7/25 – Noson Agored i Bawb
10/7/25 – Trip i Gulliver’s World – Bl 1 – 6
14/7/25 – Nofio – Bl 3 – 6 – Plas Arthur
18/7/25 – YSGOL YN CAU
Hoffwn ddymuno hanner tymor hapus a braf i chi gyd, mwynhech y gwyliau a’r seibiant ac edrychaf ymlaen i’ch croesawu chi gyd yn ôl ar ôl y gwyliau.
Cofion cynnes,
Rhys Ynyr Jones
Llythyr Mai 2025 (PDF)